Saethu Casnewydd: Mwy o gyhuddiadau

Mae dyn 24 oed o Gasnewydd gafodd ei arestio wedi saethu ar Ffordd Cas-gwent, Casnewydd, ar Fedi 3 yn wynebu tri chyhuddiad o gynllwynio i gyflawni llofruddiaeth, tri chyhuddiad o gynllwynio i achosi niwed corfforol difrifol ac un o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Bydd gerbron ynadon Casnewydd ar Ragfyr 18.

Mae dau ddyn, un yn 20 oed a'r llall yn 22 oed, eisoes wedi eu cyhuddo o geisio llofruddio mewn perthynas â'r achos hwn ac mae tri arall yn parhau ar fechniaeth yr heddlu.

Straeon perthnasol