Cymru'n wynebu tri thîm gorau'r byd

Cais
Image caption Collodd Cymru unwaith eto yn erbyn Awstralia y Sadwrn diwethaf

Bydd tîm rygbi Cymru'n wynebu'r tri thîm gorau yn y byd yng nghyfres yr hydref 2014.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau mai'r gwrthwynebwyr yn y pedair gêm y flwyddyn nesaf fydd Seland Newydd, De Affrica, Awstralia gyda Fiji'n cwblhau'r pedwarawd.

Cwblhaodd Cymru gyfres eleni drwy golli i Awstralia ddydd Sadwrn diwethaf, a dim ond unwaith y mae Cymru wedi curo tîm o hemisffer y de ers i Warren Gatland ddod yn hyfforddwr y tîm cenedlaethol.

Dyma fydd y cyfle olaf i Gatland a'i dîm herio goreuon hemisffer y de cyn Cwpan y Byd 2015.

Bydd y gemau yn erbyn Seland Newydd, Awstralia a Fiji yn digwydd ar benwythnosau rhyngwladol swyddogol yr IRB, gyda'r gêm yn erbyn De Affrica fel gêm ychwanegol.

Mae Awstralia yn yr un grwp a Chymru yng Nghwpan y Byd.

'12 gêm yn unig'

Dywedodd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis:

"Rydym wedi dweud yn gyson os ydych chi am fod y gorau, yna mae'n rhaid chwarae yn erbyn y goreuon ac mae amserlen hydref 2014 yn cadarnhau'r ymrwymiad yna.

"Unwaith eto rydym wedi gweld cyfres gyffrous a chaled arall yn hydref eleni ac fe fydd y flwyddyn nesaf yn baratoad perffaith i'r garfan cyn Cwpan Rygbi'r Byd.

"Dim ond 12 gêm sydd gennym rhwng nawr a gêm agoriadol y gystadleuaeth felly mae'n rhaid bachu ar bob cyfle i brofi'n hunain ar y lefel uchaf posib."

Straeon perthnasol