Arddangosfa yng Nghaerdydd: 'Hwb i bobl amableddau'

Image caption (Gyda'r cloc o'r top chwith) Ogmore beach gan Des Radcliffe, Towards the Light gan Eileen Harrisson, Mark the Shark gan Jenny Joanna Bartholomew Biggs a Fruit gan Mark Annis

Mae arddangosfa o waith artistiaid anabl yn yr Eglwys Norwyeg ym Mae Caerdydd am fis.

Celfyddydau Anabledd Cymru sydd wedi trefnu'r arddangosfa sy'n cynnwys lluniau, cerfluniau a ffotograffiaeth.

Yn ôl Denni Turp, swyddog maes y mudiad, mae'r arddangosfa'n ffordd bwysig o roi hwb i bobl ag anableddau yn ogystal â rhoi cyfle i'r cyhoedd weld gwaith unigryw.

"O, mae'n wych," meddai, "hon yw'r un gyntaf dw i erioed wedi ei chael ac mae'n rhoi llwyfan i artistiaid anabl dros Gymru gyfan.

"Mae eitemau mewn gwahanol gyfryngau ac mae gwaith myfyrwyr sydd newydd ddechrau eu gyrfa fel artistiaid."

Image caption Rosaleen Moriarty-Simmonds gyda Frozen Lake - llun wnaeth hi beintio gyda'i cheg a'i thraed

Dyslecsia sydd gan Rachael Ann Roberts tra bod Rosaleen Moriarty-Simmonds yn peintio drwy ddefnyddio ei cheg a'i thraed.

Profiadau

Mae Ms Moriarty-Simmonds - Rosie i'w ffrindiau - yn artist ac yn awdur sydd wedi siarad ar Women's Hour am ei phrofiadau.

Cafodd ei geni gyda 13 o fysedd ar ei thraed oherwydd effaith y cyffur Thalidomide.

Mae Nerys Horan yn gweithio gyda Suzanne Kendall sydd â llun o Wallace a Gromit yn yr arddangosfa.

Image caption Susanna Kendall yn arddangos ei llun o Wallace a Gromit

"Rhyw ychydig o ddiwrnodau gymrodd Sue i wneud y llun o Wallace a Gromit yn mynd am dro ar Lwybr Arfordir Cymru," meddai Nerys.

"Mae hi'n gwneud gwaith bob penwythnos, yn modelu ar y Sadwrn a pheintio wedyn ar y Sul.

"Ac mae hon yn rhan hanfodol o'i datblygiad hi ac o'i hwythnos hi ac mae'r lluniau'n werth eu gweld."

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant John Griffiths: "Mae'n hyfryd iawn ac mae'n brofiad da iawn i weld gwaith da Celfyddydau Anabledd Cymru sy'n bwysig iawn i'r wlad," meddai.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.