Darlith Huw Edwards: 'Gwerthfawrogwch ba mor pwysig yw capeli'

Huw Edwards
Image caption 'Mae eisoes yn rhy hwyr i rai o'n capeli gorau,' medd y cyflwynydd teledu.

Mae'r darlledwr Huw Edwards yn dadlau bod angen i bobl werthfawrogi pa mor bwysig yw capeli Cymru.

Eisoes mae wedi bod yn rhan o'r ymgyrch i achub capel Cymraeg hynaf Llundain, Capel Jewin.

Am 7pm mae ei ddarlith nos Wener ym Mhrifysgol Abertawe.

"Mae eisoes yn rhy hwyr i rai o'n capeli gorau," medd y cyflwynydd teledu.

"Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn holi beth ar y ddaear yr oedden ni'n ei wneud. Ond mae'n dal i fod yn bosibl achub rhai er budd eu cymunedau lleol."

Dywed fod angen rhoi cydnabyddiaeth briodol i bwysigrwydd capeli yn ein hanes cenedlaethol, gan eu hyrwyddo fel stori gadarnhaol yn hytrach nag un negyddol.

Un o'i gwestiynau yw: "Pam bod angen hyrwyddwyr ar gapeli? Am mai ychydig o ffrindiau sydd ganddyn nhw mewn mannau pwysig.

'Obsesiwn'

"Mae'n ymddangos bod gan benaethiaid ein diwylliant a'n treftadaeth obsesiwn â chestyll, eglwysi cadeiriol a thai gwledig. Mae angen i hyn newid."

Dywed fod modd hyrwyddo capeli mewn nifer o ffyrdd, ailadrodd eu stori a'i chyflwyno i gynulleidfa newydd, ailymweld â'u safle yn y cwricwlwm addysg a diogelu deunydd y capeli mewn modd llawer mwy trylwyr, gyda chymorth Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, y Senedd a Llywodraeth Cymru, cyrff cadwraeth lleol ac awdurdodau lleol.

Y cadeirydd yw'r Athro M Wynn Thomas o Ganolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru, Prifysgol Abertawe, ac Is-Lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau sy' wedi trefnu'r ddarlith.

Dywedodd yr Athro Wynn Thomas: "Mae Oes Aur y Capeli wedi ei dileu o'r cof cenedlaethol ac wedi ei hanwybyddu gan hanes.

"Ond o'r diwedd mae Huw Edwards am sicrhau ein bod yn talu dyledus sylw iddi."

Mae'r ddarlith yn Narlithfa Faraday a lluniaeth ar gael o 6.30pm.

Straeon perthnasol