Marwolaeth Mandela: Y byd yn galaru

Nelson Mandela
Image caption Cyhoeddwyd marwolaeth Nelson Mandela gan yr Arlywydd Jacob Zuma

Mae pobl wedi ymgasglu yn Johannesburg a Soweto i gofio am eu cyn arweinydd, Nelson Mandela a fu farw ddydd Iau yn 95 oed.

Roedd baneri'n hedfan ar hanner mast wedi i arlywydd presennol De Affrica Jacob Zuma gyhoeddi marwolaeth Mr Mandela mewn darllediad ar deledu'r wlad.

Treuliodd Mr Mandela 27 mlynedd yn y carchar cyn cael ei ethol yn arlywydd du cyntaf De Affrica yn 1994.

Disodlodd ei weinyddiaeth y gyfundrefn hiliol o'r enw apartheid a oedd yn gormesu'r mwyafrif du.

Dywedodd Mr Zuma: "Rydym yn diolch o galon i bawb yn Ne Affrica am y modd urddasol y maen nhw wedi parchu ac ymateb i'r golled enfawr o eicon rhyngwladol oedd yn symbol o gymodi, undod, cariad, hawliau dynol a chyfiawnder yn ein gwlad ac yn y byd."

Roedd yn siarad wrth gyhoeddi y byddai angladd gwladol llawn i Mr Mandela ym mhentref Qunu yn nhalaith Eastern Cape - lle cafodd Mr Mandela ei fagu - ar ddydd Sul, Rhagfyr 15.

Bydd gwasanaeth cenedlaethol yn cael ei gynnal mewn stadiwm ar gyrion Johannesburg.

Bydd corff Nelson Mandela wedyn yn gorwedd yn gyhoeddus yn y brifddinas Pretoria am dridiau cyn yr angladd.

Disgwylir y bydd yna seremoni arbennig yn San Steffan i nodi marwolaeth Nelson Mandela.

Byddai croestoriad eang o unigolion a sefydliadau yn cymryd rhan.

Cyn hynny ddydd Llun, deallir y bydd yna deyrngedau yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi.

'Cawr dros gyfiawnder'

"Roedd Duw mor dda i ni yn Ne Affrica trwy roi i ni Nelson Mandela i fod yn arlywydd arnom ar foment allweddol yn ein hanes," meddai'r Archesgob Emeritws Desmond Tutu.

Ar draws y byd, mae arweinwyr wedi bod yn rhoi teyrngedau.

Dywedodd y Frenhines ei bod hi wedi ei thristau'n arw iawn gan farwolaeth Nelson Mandela gan ddweud ei fod "wedi gweithio'n ddiflino er lles ei wlad, a'i waddol yw'r De Affrica heddychlon a welwn ni heddiw".

Yn ôl Arlywydd yr UDA Barack Obama cyflawnodd Mr Mandela fwy nac y gellid ei ddisgwyl gan unrhyw ddyn.

"Rydym wedi colli un o'r bodau dynol mwyaf dylanwadol, gwrol a gwirioneddol dda y bydd unrhyw un ohonom yn rhannu amser gydag e ar y ddaear hon. Dyw e ddim bellach yn perthyn i ni - mae'n perthyn i'r oesoedd," meddai Mr Obama.

Cyfeiriodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-Moon at Mr Mandela fel "cawr dros gyfiawnder".

Yn ôl y Prif Weinidog David Cameron: "Mae golau mawr wedi ei ddiffodd yn y byd. Roedd Nelson Mandela yn ffigwr aruthrol yn ein hamser ni... yn arwr byd-eang."

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Yr unig ffordd i ddisgrifio Nelson Mandela yw fel un o ffigyrau mwyaf y cyfnod modern.

"Nid llawer o bobl sy'n gallu dweud eu bod nhw wedi newid hanes eu gwlad er gwell gan ddod â, beth oedd bryd hynny yn gymdeithas wedi ei rhannu, at ei gilydd."

Fe wnaeth teulu Peter Hain ffoi o Dde Affrica oherwydd eu cefnogaeth i Nelson Mandela.

Wrth dalu teyrnged i "Madiba", bu Mr Hain yn dwyn i gof ymweliad Nelson Mandela â Chaerdydd yn y nawdegau.

'Dylanwad anferth'

"Fe welodd Caerdydd y diwrnod yna berfformiad clasurol gan Mandela.

"Fe anwybyddodd fy mraich oedd yn ceisio'i arwain a stopiodd ger grŵp o blant ysgol gynradd oedd yn disgleirio mewn gwisg draddodiadol Gymreig.

"Wrth i'r holl bobl bwysig ddisgwyl yn chwysu a hithau'n ddiwrnod anarferol o boeth, dechreuodd ganu Twinkle Twinkle Little Star i'r plant.

"Dysgais yn ddiweddarach mai ei blant oedd yr hyn y gwnaeth e ei golli fwyaf yn ystod ei gyfnod dan glo yn Robben Island."

Dywedodd y Tywysog Charles: "Roedd Mr Mandela yn ymgorfforiad o ddewrder ac o gymod. Roedd yn ddyn o hiwmor gwych gydag afiaith go iawn at fywyd.

"Gyda'i golli fe fydd bwlch enfawr ym mywydau nid yn unig ei deulu, ond pawb yn Ne Affrica sydd wedi gweld eu bywydau yn newid er gwell oherwydd ei frwydr dros heddwch, cyfiawnder a rhyddid."

Arwr heddwch

Cafodd Nelson Mandela ei eni yn 1918. Ymunodd â'r ANC yn 1943 pan oedd yn fyfyriwr.

Ymgyrchodd gydag arweinwyr eraill yr ANC yn erbyn apartheid.

Fe'i dedfrydwyd i garchar am oes yn 1964, ond cafodd ei ryddhau yn 1990 wrth i Dde Affrica ddechrau newid.

Fe'i etholwyd yn arlywydd du cyntaf De Affrica yn 1994. Ildiodd yr awenau wedi pum mlynedd yn y swydd.

Daeth yn llysgennad blaenllaw dros ei wlad, gan ymgyrchu ar fater HIV/Aids a chwaraeodd rhan allweddol mewn sicrhau bod cystadleuaeth cwpan pêl-droed y byd yn cael ei chynnal yn Ne Affrica yn 2010.

Bu hefyd yn rhan o drafodaethau heddwch nifer o wledydd.

Straeon perthnasol