Clirio'n parhau wedi llifogydd Sir Ddinbych

Llifogydd Rhyl Image copyright John Hardy
Image caption Mae'r gwasanaethau yn asesu'r difrod yn yr ardal
Difrod
Image caption Mae'r tywydd wedi achosi difrod ar hyd arfordir y gogledd
Clirio
Image caption Mae gweithwyr y cyngor wedi bod yn clirio'r strydoedd
Rheilffordd Image copyright Trenau Arriva Cymru
Image caption Cafodd y rheilffordd ei chau ym Mostyn oherwydd difrod
Llifogydd Rhyl
Image caption Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych y byddai'r gwaith clirio'n parhau am ddyddiau

Mae'r gwaith clirio'n parhau yn Y Rhyl wedi i lifogydd orfodi 400 o bobl i symud o'u cartrefi.

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych eu bod wedi dod o hyd i lety i 35 o bobl tra bod eraill wedi gwneud trefniadau eu hunain.

Mae criwiau tân wedi bod yn pwmpio dŵr o dai ar nifer o strydoedd yn y Rhyl ac mae tua 350 o dai yn dal i fod heb drydan.

Tra bod rhai ffyrdd ar gau, mae gwasanaethau trên wedi eu canslo.

Dywedodd Trenau Arriva Cymru na fyddai trenau'n rhedeg rhwng Caer a Rhyl tan ddydd Sadwrn Rhagfyr 7 oherwydd difrod ar hyd yr arfordir.

Ni fydd gwasanaethau rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog yn rhedeg tan ddydd Iau Rhagfyr 12.

Image copyright CRAIG COLVILLE
Image caption Daeth y tonnau dros yr amddiffynfeydd yn y Rhyl

Mae ffordd yr arfordir yn parhau i fod ar gau rhwng y Rhyl a Phrestatyn.

Dywedodd y cyngor nad oedd unrhyw broblemau ychwanegol dros nos a bod pawb yn Y Rhyl oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi wedi cael llety dros dro.

Mae'r cyngor wedi anfon mwy o weithwyr i glirio ardal Ffordd Garford.

Bydd canolfan wybodaeth yng Ngorsaf Dân Y Rhyl i roi cyngor i bobl am faterion fel iechyd a diogelwch, tai ac yswiriant.

Yn y cyfamser, mae arweinydd Cyngor Sir Ddinbych Hugh Evans wedi dweud y bydd ymchwiliad i'r llifogydd yn cael ei gynnal.

Y bwriad yw gweld a oes angen mwy o fuddsoddiad mewn amddiffynfeydd i atal llifogydd yn y dyfodol.

Symud cannoedd

Cafodd cannoedd o'r Rhyl eu symud o'u cartrefi ddydd Iau wrth i lanw uchel a gwyntoedd cryfion daro'r ardal.

Cafodd ysgolion eu cau ac fe gafodd nifer o drenau eu canslo.

Roedd dau rybudd difrifol - hynny yw perygl i fywyd - mewn grym brynhawn Iau a nifer o rybuddion am lifogydd dros y gogledd.

Yn Sir Ddinbych bu'r RNLI a'r gwasanaethau brys yn helpu 25 o bobl a chwech o gŵn o'u tai gyda rhai yn gorfod teithio mewn cychod plastig.

Pan oedd y storm ar ei hanterth ymatebodd y gwasanaeth tân i 34 o alwadau mewn cyfnod o bedair awr.

Roedd trigolion mewn dwy ardal yn y Fflint wedi cael eu hannog i adael eu tai rhwng Caeglas a Bagillt ac yn Y Parlwr Du.

'Ofnadwy'

Un gafodd ei effeithio oedd Bill McNulty. Mae difrod ym mhob ystafell ei dŷ ac nid yw'n disgwyl cael symud i mewn erbyn y Nadolig.

"Daeth y dŵr i mewn yn sydyn iawn iawn, o fewn munudau roedd y dŵr wedi lledu drwy'r tŷ i gyd."

"Mae'n hollol ofnadwy, ac yn sioc a dweud y lleiaf.

"Dwi wedi gweithio am 50 mlynedd ac mae gweld yr holl ddifrod yn ofnadwy. Mae'n bryder ar hyn o bryd ond gobeithio bydd yr yswiriant yn talu am bopeth."

Straeon perthnasol