April Jones: Dedfrydu dyn am sylwadau sarhaus ar y we

April
Image caption Cafodd April ei chipio ger ei chartref yn Machynlleth

Mae dyn wnaeth sylwadau sarhaus am April Jones ar y we wedi ei ddedfrydu i 120 awr o waith di-dal.

Dywedodd y Siryf Iona McDonald fod ymddygiad Gordon Mullen, 24 oed, yn "hollol ddychrynllyd".

Fe wnaeth Mullen y sylwadau ddeuddydd wedi i April Jones ddiflannu ger ei chartref ym Machynlleth y llynedd.

Roedd yn siarad gyda dau berson arall ar wefan Facebook o'i gartref yn Saltcoats yn yr Alban.

Bu heddlu'n chwilio amdano am bedwar mis wedi iddo ffoi rhag yr awdurdodau.

Clywodd Llys Siryf Kilmarnock ei fod wedi bod yn yfed ac nad oedd wedi meddwl y gallai ei sylwadau gael effaith ar bobl oedd yn agos at April.

"Cwbl ddychrynllyd"

Dywedodd y Siryf McDonald wrth ddedfrydu: "Mae pobl ifanc heddiw yn meddwl y cawn nhw ddweud be' fynnon nhw ar wefannau cymdeithasol. Mae'n gwbl ddychrynllyd."

Fis Hydref eleni cafodd Liam Young, 25, ei orfodi i wneud 120 awr o waith di-dal am ei ran yn y sgwrs gyda Mullen ar y wefan.

Clywodd yr un llys fod y "naill yn ceisio bod yn fwy syfrdanol na'r llall".

Cafwyd pedwar yn euog o wneud sylwadau anweddus neu sarhaus am April Jones a'r ymgyrch i ddod o hyd iddi ers ei diflaniad ym mis Hydref 2012.

Straeon perthnasol