Ymosodiad: lluniau CCTV yn cael eu rhyddhau

Dyn ifanc Image copyright Heddlu
Image caption Dyma lun o'r dyn y mae'r heddlu eisiau dod o hyd iddo

Mae'r heddlu wedi rhyddhau delweddau CCTV o ddyn maen nhw eisiau dod o hyd iddo mewn cysylltiad ag ymosodiad yng Nghaerdydd.

Cafodd dyn 19 oed ei bwnio ar ffordd Kingsway yn agos i westy yr Hilton yn ystod oriau man y bore ar ddydd Sul Tachwedd 10.

Dyma'r penwythnos pan roedd Cymru a De Affrica yn chwarae rygbi yn erbyn ei gilydd.

Roedd yn rhaid i'r dyn ifanc gael triniaeth yn yr ysbyty o achos ei anafiadau.

Mae'r dyn y mae'r heddlu yn chwilio amdano yn 5'10 o uchder, rhwng 20 a 25 oed ac roedd yn gwisgo sbectol, jins golau a siwmper glas golau.

Gofynnir i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda'r heddlu trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar y rhif 0800 555 111 gan roi'r cyfeirnod 62130354486.