Pryder cynyddol am fachgen 15 oed sydd ar goll

Aaron Phillips Image copyright Heddlu
Image caption Dyw Aaron Phillips ddim wedi ei weld ers nos Lun

Mae na bryder cynyddol am fachgen ifanc sydd wedi bod ar goll ers pedwar diwrnod.

Cafodd Aaron Phillips, 15, ei weld ddiwethaf tua 6.30yh nos Lun wrth iddo adael ei gartref yn Townhill, Abertawe.

Mae'n cael ei ddisgrifio fel bachgen 5'1 o uchder gyda gwallt byr a llygaid glas. Roedd yn gwisgo trowsus du, esgidiau llwyd a siaced las ddydd Llun.

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gan wybodaeth i gysylltu efo nhw trwy ffonio 101 neu gofynnir i Aaron Phillips gysylltu gyda'i deulu neu'r heddlu.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.