Buddugoliaeth ysgubol i'r Dreigiau

Toby Faletau Image copyright Arall
Image caption Seren y gêm oedd Toby Faletau

Dreigiau 40-24 Bordeaux-Begles

Roedd hi'n noson fawr i'r Dreigiau yn Rodney Parade wrth iddyn nhw guro'r Ffrancod.

Sgoriodd Jason Tovey 15 o bwyntiau ond seren y gêm oedd Toby Faletau.

Erbyn y diwedd roedd y Cymry wedi sgorio pum cais ac yn y munudau ola' llwyddon nhw i atal y Ffrancod rhag sgori eu pedwerydd cais.

Cyn y gêm dywedodd y capten Andrew Coombs: "Rhaid i ni ennill hon oherwydd bydd hi'n anodd iawn pan awn ni i Ffrainc.

"Mae'r bois yn fwy hyderus ar ôl trechu Glasgow oddi cartre'."

Dreigiau: Daniel Evans, Matthew Pewtner, Pat Leach, Ashley Smith, Hallam Amos, Jason Tovey, Wayne Evans; Hugh Gustafson, Sam Parry, Dan Way, Andrew Coombs (capten), Matthew Screech, Lewis Evans, Nic Cudd, Toby Faletau.

Eilyddion: Elliot Dee, Owen Evans, Nathan Buck, Rob Sidoli, Ieuan Jones, Richie Rees, Kris Burton, Ross Wardle.

Bordeaux-Begles: Joaquim Tuculet, Robert Lilomaiava, Charles Brousse, Thibault Lacroix, Rafael Carballo, Romain Lonca, Manu Saubusse, Jefferson Poirot, Benat Auzqui, Benjamin Sa, Cameron Treloar, Aliki Fakate, Gauthier Gibouin (capten), Matthew Graham, Poutasi Luafutu.

Eilyddion: Jean-Charles Fidinde, Laurent Del Boulbes, Patrick Toetu, Adam Jaulhac, Jean-Blaise Lespinasse, Baptiste Serin, Gilem Queheille, Jean-Baptiste Lamotte.