Cyngor Casnewydd: Edrych ar "bob opsiwn" i arbed arian

The medieval ship discovered in Newport, south Wales Image copyright Other
Image caption Mae'n bosib y bydd y cyngor yn stopio ariannu gwaith i adnewyddu hen long

Mae arweinydd Cyngor Casnewydd wedi dweud eu bod nhw'n ystyried "bob opsiwn" wrth drio gwneud arbedion o £25m dros y pedair blynedd nesaf.

Daw sylwadau Bob Bright wrth i'r cyngor gyhoeddi cynlluniau i arbed arian.

Ymhlith 100 o gynigion mae cynyddu treth cyngor 5% a chael gwared a chamerau CCTV yng nghanol y ddinas.

Byddai'r cyngor yn ystyried cael gwared a'r camerau erbyn 2017 oni bai bod digon o incwm yn cael ei godi i'w cadw.

Cyllid blynyddol y cyngor yw £250m.

Effeithio gwasanaethau

Mae'r arweinydd yn dweud bod y cyngor wedi gweithio'n "ethriadol o galed" i wneud arbedion. Ond roedd yn rhybuddio y bydd yna newidiadau i wasanaethau.

"Er mor anodd y gallai hynny fod, rydyn ni nawr wedi cyrraedd y pwynt lle mae torriadau pellach a newidiadau radical i'r ffordd mae ein gwasanaethau yn gweithio yn anorfod.

"Mae'r cynigion cyllidol yma yn dangos eu bod ni'n ystyried bob opsiwn."

Ymhlith y cynigion eraill y mae cau Amgueddfa Casnewydd un diwrnod yr wythnos, cau toiledau cyhoeddus a rhoi diwedd i wasanaeth llyfrgelloedd mewn ysgolion.

Mae'r cabinet yn cyfarfod ddydd Iau er mwyn trafod y torriadau posib.

Ar ddydd Mawrth mae disgwyl i gyngor Abertawe drafod sut y byddan nhw yn gwneud arbedion yn y blynyddoedd nesaf.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.