Crystal Palace 2-0 Caerdydd

Cameron Jerome yn sgorio Image copyright Jamie McDonald

Fe wnaeth Cameron Jerome sgorio ei gol gyntaf i Crystal Palace wrth i'r tîm o Lundain guro Caerdydd 2-0.

Peniad Jerome, cyn ymosodwr, Caerdydd wnaeth roi Palace ar y blaen ar ôl i Fraizer Campbell ddod yn agos i'r ymwelwyr.

Fe wnaeth foli Marouane Chamakh ymestyn mantais Palace, a bu bron i Jerome sgorio eto ond iddo gael ei rwystro gan arbediad David Marshall.

Mae'r canlyniad yn golygu mi dim ond un fuddugoliaeth mewn naw gem mae Caerdydd wedi ei sicrhau.

I'r gwrthwyneb mae Palace wedi sicrhau 10 pwynt allan o 15 posib yn eu gemau mwyaf diweddar.

Mae Palace yn parhau yn y tri safle isaf ar 13 pwynt, gyda Chaerdydd dau safle yn uwch ar 14 pwynt.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.