Clermont Auvergne 32-11 Scarlets

Reagan King o Clermont Auvergne yn cystadlu am y bêl gyda Liam Williams. Image copyright Getty Images
Image caption Reagan King o Clermont Auvergne yn cystadlu am y bêl gyda Liam Williams.

Fe wnaeth Clermont Auvergne lwyddo i sgorio pwynt bonws wrth guro'r Scarlets mewn gêm ddigon di fflach y grwp 4 Cwpan Heineken.

Roedd y tîm cartref ar y blaen 6-3 ar yr egwyl gyda Brock James yn cicio dwy gic gosb, gyda Rhys Priestland yn taro nôl i'r ymwelwyr.

Ond fe wnaeth Clermont ymestyn eu record ddiguro gartref i 68 gêm gyda cheisiau i Jamie Cudmore, Napolioni (2) a Clement Ric.

Fe wnaeth Jordan Williams ymateb gyda chig gosb i'r Scarlets ac fe lwyddodd Rhodri Williams i groesi'r llinell am unig gais yr ymwelwyr.

Bu'n rhaid i Lee Byrne adael y maes gydag anafi i'w gefn yn ystod yr hanner cyntaf.

Clermont: Lee Byrne; Sitiveni Sivivatu, Aurélien Rougerie (capt), Regan King, Napolioni Nalaga; Brock James, Thierry Lacrampe; Thomas Domingo, Benjamin Kayser, Daniel Kotze, Jamie Cudmore, Nathan Hines, Julien Bonnaire, Gerhard Vosloo, Fritz Lee

Eilyddion: Ti'i Paulo, Vincent Debaty, Clément Ric, Julien Pierre, Damien Chouly, Ludovic Radoslavjevic, Mike Delany, Noa Nakaitaci

Scarlets: Liam Williams; Frazier Climo, Nick Reynolds, Scott Williams, Jordan Williams; Rhys Priestland, Gareth Davies; Rob Evans, Emyr Phillips (capt), Samson Lee, Jake Ball, George Earle, Aaron Shingler, Josh Turnbull, John Barclay.

Eilyddion: Ken Owens, Shaun Hopkins, Jacobie Adriaanse, Richard Kelly, Johan Snyman, Rhodri Williams, Aled Thomas, Adam Warren.

Hefyd ar y BBC