Mandela: Rhagor o deyrngedau

  • 9 Rhagfyr 2013
Nelson Mandela, 1990

Fe fydd aelodau seneddol ac aelodau Tŷ'r Arglwyddi yn talu teyrngedau i Nelson Mandela ddydd Llun cyn i'r senedd ddechrau ar ei waith yn ffurfiol.

Cafwyd cadarnhad y bydd y prif weinidog David Cameron yn mynychu gwasanaeth coffa cenedlaethol yn Johannesburg ddydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Buckingham Palace y bydd y Tywysog Charles yn mynychu'r angladd ddydd Sul, gan gynrychioli'r Frenhines.

Eisoes mae tua 60 o arweinwyr gwledydd y byd wedi cadarnhau y byddant yn mynychu'r angladd.

Hwn fydd y cyfarfod mwyaf erioed o arweinwyr y byd ar gyfandir Affrica.

Yn ogystal ag Arlywydd Barack Obama, bydd yna ddau cyn arlywydd yn bresennol, sef Bill Clinton a George W Bush.

Ddydd Mercher bydd corff Mr Mandela yn cael ei gludo i Pretoria.

Yna, gan ddechrau am 7yb bydd gorymdaith angladdol yn cludo corff Mr Mandela ar hyd strydoedd y brifddinas am dridie yn olynol.

Bydd ei gorff yn cael ei gludo o'r marwdy i neuadd y ddinas ac mae'r llywodraeth wedi annog pobl i wylio'r orymdaith er cof am y cyn arlywydd.

Teulu Mr Mandela fydd yn cael y cyfle cyntaf i weld ei gorff bore Mercher, yna am hanner dydd bydd cyfle i'r cyhoedd fynd i dalu teyrnged.

Yna, bydd ei gorff yn cael ei gludo i'w gartref teuluol yn Qunu yn nhalaith y Penrhyn Dwyreiniol, lle bydd angladd teuluol yn cael ei gynnal ar ddydd Sul, Rhagfyr 15.