Ymosodiad ar gi tywys

Gwen recovering at home with owner Julie Rees Image copyright Guide Dogs for the Blind Association
Image caption Gwen gyda'i pherchennog Julie Rees

Mae dynes ddall wedi bod yn siarad am sut i gi ymosod ar ei chi tywys tra bod y ddau ohonynt yn cerdded.

Dywedodd Julie Rees fod y ci wedi ymosod ar ei labrador Gwen oedd mewn harnais ar y pryd.

Digwyddodd yr ymosodiad yn ardal Fforestfach, Abertawe dydd Iau.

Mae'n debyg mai daeargi neu gi Staffordshire wnaeth ymosod.

"Rwyf o hyd yn gwybod os oes yna gi arall o gwmpas, oherwydd bod pen Gwen yn codi ac mae'n chwifio ei chynffon.

"Ond wnaeth y ci yma fynd yn syth amdani. Fe wnes i drio ei hamddiffyn ond aeth y ci am ei gwddw, a gwrthod gadael fynd. Roedd Gwen mewn harnais, ac felly byddai ddim yn ymladd yn ôl..

"Daeth dau ddyn i helpu, er mwyn ryddhau Gwen.

Fe wnaeth un o'r dynion ddal y ci tan bod yr heddlu yn cyrraedd.

Roedd y ci yn gwisgo coler.

Dywed yr heddlu nad oes yna unrhyw un wedi cael ei arestio ynglŷn â'r digwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Guide Dogs Cymru y bydd angen i Gwen gael eu hasesu a'i hailhyfforddi cyn gallu tywys eto.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.