Merch ordew bump oed wedi ei rhoi mewn gofal

Colli pwysau
Image caption Roedd y ferch bump oed yn pwyso dros 10 stôn ym mis Awst 2012

Mae merch bump oed wedi ei chymryd oddi wrth ei theulu am ei bod hi'n pwyso dros 10 stôn.

Cafodd y penderfyniad ei wneud gan Gyngor Casnewydd ym mis Awst 2012 ac mae'r ferch yn cael gofal maeth.

Yn y mis hwnnw roedd y ferch yn pwyso dros 10 stôn (63 cilogram).

Roedd ei BMI ym mis Medi eleni yn 27.8. Fel arfer mae meddygon yn ystyried bod BMI o dros 25 yn gwneud rhywun dros eu pwysau.

Cafodd y wybodaeth ei rhoi trwy Gais Rhyddid Gwybodaeth ac mae'r cyngor yn cadarnhau nad oedd unrhyw ffactor arall, ac mai ar sail ei phwysau yn unig y cafodd y ferch ei rhoi mewn gofal.

Dywed llefarydd ar ran Cyngor Casnewydd: "Mae lles plant a phobl ifanc yn hollbwysig ac yn ganolbwynt i'r gwaith sydd yn cael ei wneud gan adran blant Cyngor Casnewydd.

"Rydym bob amser yn cynnal asesiad trwyadl o bob plentyn a'i deulu. Mi fydd yr holl ffactorau yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniad.

"Mi fyddai yn amhriodol i wneud sylw pellach ar yr achos yma yn sgil lles y plentyn."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.