Airbus: Rhagor o archebion i'r ffatri ym Mrychdyn

airbus
Image caption Bydd adenydd yr awyrennau'n cael eu hadeiladu yn ffatri Airbus ym Mrychdyn.

Bydd ffatri Airbus ym Mrychdyn yn adeiladu adenydd ar gyfer 25 awyren newydd, wedi archeb fawr gan Kuwait Airways.

Daw hyn wedi i'r cwmni awyrennau brynu 10 A350-900, er mwyn "datblygu gwasanaethau hediad-hir". Mae'r awyren yn cynnig seddi moethus a gwasanaethau arbennig.

Yn ogystal, mae Kuwait Airways wedi prynu 15 awyren A320neo, i "hybu'r ddarpariaeth hediad-byr".

Meddai John Leahy, pennaeth rheoli cwsmeriaid Airbus:"Mae'n wych gweld cwsmeriaid ffyddlon fel Kuwait Airways yn adeiladu eu dyfodol gyda'n modelau diweddaraf".

Fis Tachwedd eleni, derbyniodd Airbus archebion allai fod werth dros £30 biliwn mewn Sioe Awyrennau yn Dubai.

Straeon perthnasol