Dyn o Gasnewydd ar goll

Dyn ar goll Image copyright Heddlu Gwent
Image caption Dyw Ben Caplan ddim wedi ei weld ers nos Sadwrn

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ynglŷn â dyn sydd heb gael ei weld ers nos Sadwrn.

Cafodd yr heddlu wybod brynhawn Sul fod Ben Caplan sydd yn 30 oed ar goll.

Cafodd ei weld yng Nghaerllion ger Casnewydd am 11pm nos Sadwrn.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i adroddiadau fod rhywun wedi mynd mewn i'r afon wrth ymyl Bont Caerllion y noson honno.

Yn ôl y disgrifiad o Ben Caplan sydd wedi ei gyhoeddi, mae'n wyn, 5'9" o daldra, gyda gwallt brown at ei ysgwyddau ac roedd yn gwisgo jins a chrys t glas tywyll.

Mae ganddo datŵs ar ei freichiau, ei gefn a'i frest.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio Heddlu Gwent ar y rhif 101 gan roi'r rhif cyfeirnod 295 08/12/13.