Wrecsam 1 - 2 Rhydychen

Rhydychen yn dathlu
Image caption Ni fydd deiliaid Tlws yr FA yn mynd ymhellach yng Nghwpan yr FA

Er iddyn nhw sgorio'r gôl agoriadol, colli fu hanes Wrecsam yn erbyn Rhydychen yn ail rownd Cwpan yr FA.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn colli allan ar y cyfle i chwarae Charlton yn y drydedd rownd.

Joe Clarke wnaeth sgorio i'r tîm cartref gyda'i bedwerydd gôl y tymor hwn wrth iddo rwydo o groesiad Dean Keates.

Ond daeth y clwb o dde Lloegr yn ôl gyda James Constable yn sgorio yn dilyn pas gan Dave Kitson a Ryan Williams yn penio'r ail funudau'n ddiweddarach.

Mae'r canlyniad yn golygu mai dim ond tri clwb islaw Adran Dau sydd ar ôl yn y gystadleuaeth sef Macclesfield, Grimsby a Kidderminster.