Miloedd yng ngwasanaeth coffa Nelson Mandela yn Soweto

Nelson Mandela Image copyright Li Qihua/REX features
Image caption Daeth miloedd allan yn y glaw i stadiwm FNB i gofio am Nelson Mandela
Nelson Mandela Image copyright Jeff J Mitchell/Getty Images
Image caption Mae'r gwasanaeth yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau i gofio am Madiba
Nelson Mandela Image copyright Chip Somodevilla/Getty Images
Image caption Roedd y gwasanaeth yn ddathliad o fywyd Nelson Mandela
Barack Obama Image copyright ALEXANDER JOE/AFP
Image caption Diolchodd Barack Obama i Dde Affrica am rannu Nelson Mandela gyda gweddill y byd
Jacob Zuma Image copyright Reuters
Image caption Dywedodd Jacob Zuma bod Mr Mandela yn ddyn "unigryw"

Mae miloedd o bobl wedi ymgynnull ar gyfer gwasanaeth coffa Nelson Mandela yn stadiwm FNB yn Soweto, De Affrica.

Mae arweinwyr ac enwogion rhyngwladol ymhlith y rhai a ddaeth i'r stadiwm 95,000 o seddi, ble y gwnaeth Mr Mandela ei ymddangosiad cyhoeddus olaf yn ystod Cwpan Pêl-droed y Byd yn 2010.

Mae Arlywydd America Barack Obama ac Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ban Ki-Moon wedi annerch yn ystod y gwasanaeth, ynghyd â phedwar aelod o deulu Mr Mandela.

Cofio

Dechreuodd y gwasanaeth gyda bendithion gan arweinwyr crefyddol, cyn i ffrindiau agos i Mr Mandela gofio amdano.

Siaradodd tri o wyrion Madiba, ac mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, Ban Ki-Moon wedi annerch y dorf.

Dywedodd Ban Ki-Moon fod Mr Mandela wedi ymladd drwy gydol ei fywyd, a bod dyletswydd ar bawb i barhau â'i waith.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Nelson Mandela o bedwar ban byd

"Mae De Affrica wedi colli arwr, mae wedi colli tad... Ef oedd un o'n athrawon gorau. Roedd yn dysgu drwy ei esiampl," meddai.

"Aberthodd gymaint, ac roedd yn barod i aberthu pob dim oedd ganddo er mwyn rhyddid a democratiaeth."

Roedd croseo cynnes i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wrth roi teyrnged i fywyd unigryw Nelson Mandela.

Dywedodd bod Mandela wedi dysgu beth oedd pŵer syniadau i'r byd, a'i fod wedi cymryd dyn fel ef i ryddhau'r carcharor, ond hefyd y swyddogion.

Dywedodd: "Ni fyddwn yn gweld yr un tebyg i Nelson Mandela eto.

"Ond i bobl ifanc De Affrica a phobl ifanc dros y byd - gallwch chi sicrhau mai ei waith ef yw eich gwaith chi."

Ond croeso mwy cymysg oedd i Arlywydd presennol De Affrica, Jacob Zuma.

Dywedodd bod Mr Mandela yn "unigryw" a'i fod wedi gwrthod a gadael i apartheid ei stopio wrth iddo ymladd dros ryddid i'w bobl.

Cyfres o ddigwyddiadau

Roedd disgwyl i'r gwasanaeth ddechrau am 11:00yb amser lleol (9:00yb yng Nghymru), ond daeth i'r amlwg y byddai yna oedi gan fod y stadiwm yn araf yn llenwi.

Roedd disgwyl i thua 80,000 o bobl ddod i'r stadiwm, ond gyda thywydd garw a'r ffaith nad oedd gwyliau cenedlaethol yn y wlad ddydd Mawrth, roedd hi'n edrych yn debyg na fyddai cymaint yn dod wedi'r cyfan.

Mae disgwyl i'r gwasanaeth bara tua phedair awr.

Bu farw cyn arlywydd De Affrica ddydd Iau diwethaf yn 95 oed.

Mae'r wlad yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyn i angladd Mr Mandela gael ei gynnal ddydd Sul.

Mae cynrychiolwyr o dros 90 o wledydd wedi teithio i'r gwasanaeth ddydd Mawrth.

Mae Arlywydd presennol De Affrica, Jacob Zuma, wedi cyflwyno araith, gyda theyrngedau hefyd gan Dilma Rousseff, Arlywydd Brasil, Is-Lywydd China Li Yuanchao, yr Arlywydd Hifikepunye Pohamba o Namibia ac Arlywydd India Pranab Mukherjee.

Image caption Mae cynrychiolwyr o dros 90 gwlad wedi dod i'r gwasanaeth

Mae Prif Weinidog y DU David Cameron hefyd wedi teithio i Dde Affrica, ynghyd â'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg, arweinydd Llafur Ed Miliband, a'r cyn Brif Weinidogion Gordon Brown, Tony Blair a John Major.

Yn ogystal mae tri o gyn arlywyddion yr Unol Daleithiau, George W Bush, Bill Clinton a Jimmy Carter, yn ymuno â'r arlywydd Obama, yn ogystal â Francois Hollande o Ffrainc, Llywydd yr Awdurdod Palisteinaidd Mahmoud Abbas, Arlywydd Zimbabwe Robert Mugabe, Dilma Rousseff, Arlywydd Brasil, a Pranab Mukherjee o India.

Gorwedd yn gyhoeddus

Roedd dau o enwogion amlycaf y mudiad gwrth-apartheid, Peter Gabriel a Bono, yn mynychu'r gwasanaeth, yn ogystal â phobl fel Marti Ahtisaari a oedd, ynghyd â Mr Mandela, yn rhan o grŵp o gyn arweinwyr 'The Elders' a oedd yn hybu heddwch a hawliau dynol.

Bydd corff Mr Mandela yn gorwedd yn gyhoeddus yn Pretoria am dridiau wedi'r gwasanaeth coffa, ac fe fydd yna angladd gwladol ar ddydd Sul 15 Rhagfyr.

Bydd nifer llai o gynrychiolwyr rhyngwladol yn mynd i'r gladdedigaeth ym mhentref Qunu yn nhalaith Easter Cape, ble y cafodd Mandela ei fagu.

Cafodd rhaglen arbennig gan BBC Cymru ei darlledu ar S4C amser cinio ddydd Mawrth, gyda darllediadau o'r gwasanaeth coffa - gellir gweld Newyddion Arbennig: Gwasanaeth Coffa Nelson Mandela ar wefan S4/Clic.

Straeon perthnasol