Dwy ddamwain angeuol yn ne Cymru

Bu farw dau o bobl mewn damweiniau ar wahan yng Nghwmbran ac Abertawe ddydd Mawrth.

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad ar Lôn Sgeti.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 7:10yb wedi adroddiadau fod dynes wedi cael ei tharo gan gar Seat Leon lliw arian wrth iddi gerdded ger y lôn ddeheuol taug at gyfeiriad Ffordd Y Mwmbwls.

Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Treforys yn y ddinas, ond bu farw o'i hanafiadau yn ddiweddarach.

Mae gyrrwr y car wedi cael ei arestio ar amheuaeth o yrru'n beryglus.

Mae ditectifs yn gofyn i unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu a welodd y cerbyd Seat Leon yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu â nhw ar 101, neu drwy ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111, gan roi'r cyfeirnod 62130386977.

Yn y cyfamser, cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Henllys yng Nghwmbran am 8:40yb ddydd Mawrth, wedi i gerbyd daro yn erbyn coeden gerllaw'r orsaf dân a'r orsaf betrol.

Cafodd y gyrrwr ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent, ble daeth cadarnhad ei fod wedi marw.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.