Archwiliad post mortem ar ôl i fachgen 3 oed farw

Heddlu
Image caption Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad

Mae'r bachgen fu farw ar ôl cael ei ddarganfod mewn pwll ddydd Llun wedi cael ei enwi'n lleol fel Harvey Lee Williams.

Mae crwner gogledd ddwyrain Cymru wedi gofyn am archwiliad post mortem ar ôl i Harvey, oedd yn dair oed, farw yn dilyn y digwyddiad yn Froncysyllte.

Bydd yr archwiliad yn digwydd yn ysbyty'r Alder Hey yn Lerpwl ddydd Mercher a bydd cwest yn cael ei agor yn nes ymlaen yn yr wythnos.

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau ei bod nhw'n cynnal ymchwiliad ar ran y crwner ond nad oes na amgylchiadau amheus.

Yn ôl cymdogion roedd y teulu yn y broses o symud tŷ pan ddigwyddodd y trychineb ger Llangollen brynhawn Llun.

Ar ôl i'r gwasanaethau brys gael gwybod am ddiflaniad y bachgen cafodd ei ddarganfod mewn pwll gardd tŷ cymydog.

Cafodd ei yrru i ysbyty Maelor Wrecsam ond mi fuodd o farw.

Straeon perthnasol