'Angen meddwl am ddyfodol trenau Cymru'

Arriva Trains Wales
Image caption Arriva Trains Wales sy'n gyfrifol am fwyafrif llethol y gwasanaethau tren yng Nghymru

Dylai Llywodraeth Cymru ddechrau paratoi nawr ar gyfer 2018, pan mae'r fasnachfraint drennau bresennol - sef yr hawl i redeg gwasanaethau - yn dod i ben.

Er mwyn gallu gwneud hyn yn effeithiol mae angen i bwerau ychwanegol gael eu datganoli er mwyn i'r llywodraeth allu gwneud penderfyniad effeithiol ynglŷn â phwy ddylai redeg gwasanaethau trenau yn y dyfodol, yn ôl y Pwyllgor Menter a Busnes.

Mae'r pwyllgor eisiau gweld lles defnyddwyr trenau yn cael ei roi fel prif ystyriaeth wrth wneud y penderfyniad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n bwriadu cymryd rôl weithredol yn y cynllunio ar gyfer y fasnachfraint nesaf a'u bod nhw wedi gofyn i lywodraeth y DU am bwerau ychwanegol er mwyn "cryfhau eu sefyllfa".

'Cyfle gwirioneddol'

Bydd aelodau o'r pwyllgor yn mynd i'r Henffordd i lansio'r adroddiad - lleoliad sydd wedi ei ddewis er mwyn pwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau sy'n croesi'r ffin a Lloegr.

Yn ogystal mae aelodau'r pwyllgor yn dweud yn yr adroddiad fod angen sicrhau bod gwasanaethau trên y dyfodol yn cael eu hintegreiddio gyda gwasanaethau eraill fel rhai bysiau.

Yr aelod Ceidwadol Nick Ramsay yw Cadeirydd y Pwyllgor Busnes a Menter, a dywedodd wrth i'r adroddiad gael ei gyhoeddi: "Credwn fod cyfle gwirioneddol i Lywodraeth Cymru greu gwasanaeth a fydd yn ymateb i anghenion y teithwyr yng Nghymru a'r Gororau.

"Drwy sefydlu gofynion llym ar gyfer gorsafoedd, cyfleusterau a dulliau monitro perfformiad, yn ogystal â thryloywder ariannol o ran elw a chymorthdaliadau, mae gan y fasnachfraint nesaf y potensial i wella gwasanaethau'r rheilffyrdd yn sylweddol i deithwyr tra'n sicrhau gwerth am arian.

"Rydym hefyd am weld masnachfraint sydd wedi'i hintegreiddio â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus eraill, gan gynnwys Metro arfaethedig De Cymru a'r rhwydwaith fysiau."

'Beth ydyn ni eisiau?'

Mae disgwyl i waith ar Fetro De Cymru - prosiect sydd werth £62 miliwn - ddechrau'r flwyddyn nesaf.

Mae'r pwyllgor hefyd yn credu bod angen sicrhau bod digon o arian wedi ei roi i'r neilltu ar gyfer y cynlluniau a bod staff arbennigol yn cael eu penodi er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth.

Mae cwynion wedi bod am safon y trenau dros y blynyddoedd a'r telerau a gytunwyd rhwng llywodraethau Prydain, Llywodraeth Cymru ac Arriva Trains Wales sydd ar fai am hynn yn ôl yr Athro Stuart Cole, sy'n darlithio yn Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru.

Ychwanegodd yr Athro Cole: "Mae'n raid penderfynu yn union beth ni eisiau - beth yw'r cosbiau ariannol os yw'r cwmnïau ddim yn gwneud y job?

"A hefyd nid ond dweud wrthyn nhw 'mae'n rhaid rhedeg y trenau ar amser' - mae'n rhaid tyfu faint o bobl sydd yn teithio. Mae'n rhaid gwella y gwasanaeth yn enwedig profiad y teithiwr i gael pobl i feddwl yn gyntaf 'af i ar y trên'."

Mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i gymryd rôl weithredol o fewn y fasnachfraint nesaf ac yn ceisio am fwy o bwerau ychwanegol gan lywodraeth y DU i gryfhau ein sefyllfa.

"Byddwn yn ystyried argymhellion y pwyllgor yn ofalus."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.