Mwy o le i gefnogwyr Wrecsam

Cae Ras Wrecsam
Image caption Mwy o le i gefnogwyr

Bydd 1,500 yn fwy o gefnogwyr yn gallu mynychu gemau ar y Cae Ras ar ôl gwelliannau i'r stadiwm yn Wrecsam.

Nawr bydd caniatâd i 10,771 wylio gemau yn y stadiwm, o'i gymharu â 9,250 cyn y gwelliannau.

Hwn yw'r tro cyntaf i'r stadiwm gael caniatâd i roi mynediad i fwy na 10,000 ers pum mlynedd.

Mae'r Cae Ras yn gartref i dîm pêl-droed Wrecsam a thîm rygbi'r gynghrair Crusaders Gogledd Cymru.

Mae cyfyngiadau yswiriant yn ymwneud â iechyd a diogelwch yn golygu bod nifer y bobl sy'n cael mynd i'r stadiwm wedi ei gyfyngu o'r llawn botensial.

Heb y cyfyngiadau hyn, fe allai'r stadiwm, yr un mwyaf yn y gogledd, ddal 15,500.

Prifysgol Glyndŵr sy'n berchen y stadiwm.

Dywedodd llefarydd: "Rydym wedi buddsoddi yn helaeth dros y 12 mis diwethaf er mwyn gwella'r cyfleusterau a gwneud y stadiwm yn fwy diogel."

Straeon perthnasol