Menyw 23 mewn cyflwr difrifol

Mae menyw gafodd ei hanafu mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A487 ddydd Mercher mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Roedd y fenyw, sy'n 23, yn gyrru Seat Ibiza a fu mewn gwrthdrawiad gyda Ford Galaxy ar y ffordd rhwng Derwenlas a Glandyfi, ger Machynlleth ychydig wedi 10am.

Mae ei theulu wedi cael gwybod ac maen nhw gyda hi yn Ysbyty Bronglais.

Mae Heddlu Dyfed Powys am i unrhyw un a welodd y digwyddiad gysylltu ag Uned Heddlu a Ffyrdd Ceredigion ar 101.

Straeon perthnasol