Abertawe: Dynes 60 oed o Fôn-y-Maen yn ddiogel

lorraine richens
Image caption Mae Lorraine Richens wedi dychwelyd adref yn ddiogel.

Mae heddlu yn Abertawe'n dweud bod dynes 60 oed o Fôn-y-Maen oedd ar goll o'i chartref, wedi dychwelyd adref yn ddiogel.

Doedd neb wedi gweld Lorraine Richens ers iddi adael ei chartref fore Mercher, Rhagfyr 11, i ymweld â'r feddygfa.

Wedi iddyn nhw ddod o hyd iddi, diolchodd yr heddlu am gymorth pawb gysylltodd â nhw gydag unrhyw wybodaeth.