Swyddi yn fantol yn y parc cenedlaethol

Brecon Beacons Image copyright Brecon Beacons National Park Authority
Image caption Mae miliynau o bobl yn ymweld â'r parc yn y Bannau bob blwyddyn

Mae wyth o swyddi yn y fantol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a hynny er mwyn gwneud arbedion ariannol.

Mae'r parc yn wynebu toriad o 8.9% gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Bydd toriad arall o 4% y flwyddyn wedyn.

Mae 130 o bobl yn cael eu cyflogi a'u gwaith ydy rheoli'r parc a bod yn gyfrifol am geisiadau cynllunio.

Yn ôl prif weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog maen nhw wedi llwyddo i ffeindio swyddi i rai ar ôl i bobl adael yr awdurdod. Ond dyw hyn ddim yn ddigon ar gyfer yr arbedion maen nhw angen gwneud.

"Yn naturiol mae'r penderfyniad i gael gwared ar swyddi yn un anodd ac mi fydd ein cynnig yn achosi ansicrwydd i rai o'r staff. Ond mae'r broses yma wedi bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau dyfodol yr awdurdod."

Mae'r parc cenedlaethol yn y bannau yn ymestyn o'r Gelli Gandryll ym Mhowys i Landeilo yng Nghaerfyrddin.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben Ionawr 7, 2014.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.