Agor cwest ar farwolaeth Harvey Lee Williams, 2

Marwolaeth Froncysyllte
Image caption Cwest yn agos i farwolaeth Harvey Lee Williams

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth plentyn dwy oed a ddarganfuwyd mewn pwll gardd yn Froncysyllte ger Llangollen.

Yn Ysbyty plant Alder Hey yn Lerpwl cynhaliwyd archwiliad post-mortem ar gorff Harvey Lee Williams.

Dywedodd patholegydd mai boddi oedd achos ei farwolaeth.

Dywedodd crwner gogledd ddwyrain Cymru, John Gittins, bod mam Harvey, o Pleasant View, Froncysyllte, wedi dweud wrth yr heddlu ei fod ar goll.

Daeth yr heddlu a gwasanaeth ambiwlans i'r tŷ ar ôl iddynt ddarganfod Harvey gyda'i wyneb i lawr mewn pwll gardd cymdogion.

Ceisiodd partner ei fam ei adfywio yn y fan a'r lle cyn i barafeddygon gymryd drosodd.

Cludwyd ar frys i Ysbyty Maelor Wrecsam, lle bu farw.

Y disgwyl ydi bydd y cwest yn cael ei gynnal yn y gwanwyn ond does dim dyddiad wedi ei bennu eto.

Straeon perthnasol