Diffyg hyder mewn myfyrwyr o Gymru, medd adroddiad

Myfyrwyr Image copyright Getty Images
Image caption Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi yn yr haf

Mae diffyg hunanhyder gan ddisgyblion o Gymru yn cyfyngu ar y nifer sy'n gwneud cais i astudio ym mhrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

Dyna yw canlyniad adroddiad interim y llysgennad Cymreig i'r prifysgolion hyn, Paul Murphy AS.

Mae ei adroddiad yn dweud bod llawer o fyfyrwyr yn credu nad oes ganddynt y wybodaeth arbenigol sydd ei angen i wneud cais llwyddiannus i brifysgolion gorau'r DU.

Cafodd Paul Murphy ei benodi gan y gweinidog addysg a sgiliau ym mis Mai eleni, wedi i ffigyrau ddangos bod lleihad yn nifer y myfyrwyr Cymreig yn mynychu Rhydychen a Chaergrawnt.

'Diffyg hyder'

Dywedodd Mr Murphy: "Rydw i am i'n pobl ifanc ni gael y cyfle i gyflawni eu breuddwydion addysg, p'run bynnag ddewis maent yn ei wneud - os yw hynny yn Oxbridge, prifysgol arall, hyfforddiant neu brentisiaeth.

"Dylen nhw gael yr holl gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw i anelu yn uchel."

Bydd yr adroddiad terfynol i'r gweinidog yn cael ei gyhoeddi yn yr haf, pan fydd Mr Murphy yn cynnig argymhellion i leihau'r rhwystrau i fyfyrwyr Cymreig rhag mynd i brifysgolion gorau Prydain.

Wedi chwe mis o ymchwil, dywed yr adroddiad bod cyfradd llai o fyfyrwyr o Gymru wedi ennill llefydd yn Rhydychen a Chaergrawnt na myfyrwyr o Loegr a Gogledd Iwerddon.

Dywed hefyd bod gormod o fyfyrwyr o Gymru yn dioddef o ddiffyg hyder academaidd, sy'n eu hatal rhag gwneud cais neu yn effeithio ar eu perfformiad yn y broses o wneud cais.

Yn 2012, dim ond 22% o ymgeiswyr Cymreig i Gaergrawnt oedd yn llwyddiannus, o'i gymharu â 27.3% o Loegr a 31.5% o Ogledd Iwerddon.

Dim ond 17.4% o ymgeiswyr o Gymru i Rydychen oedd yn llwyddiannus yn yr un flwyddyn.

'Sefydliadau elitaidd'

Er bod gwahaniaeth bach yng nghyfradd y myfyrwyr o Gymru sy'n cael rhwng pump a chwe gradd A* yn eu TGAU, mae Mr Murphy yn credu bod ffactorau eraill yn cael effaith ar ymgeiswyr.

Mae'n dweud bod athrawon yn teimlo fel nad ydynt yn gallu rhoi'r gefnogaeth sydd ei angen wrth wneud cais, a bod gan lawer o fyfyrwyr, athrawon a rhieni ganfyddiadau negyddol am brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

"Roedd rhai o'r myfyrwyr fuais yn siarad gyda nhw yn teimlo bod Rhydychen a Chaergrawnt yn sefydliadau elitaidd, lle mae cefndir a dosbarth cymdeithasol yn bwysig.

"Mae'r camsyniadau yma yn gallu atal myfyrwyr rhag gwneud cais ac achosi mwy o bryder yn ystod y broses."

Mae Mr Murphy yn cydnabod bod hwn yn fater cymhleth sydd yn ymwneud â sawl rhan o'r broses addysg a cheisiadau prifysgol.

Image caption Mae Paul Murphy yn gyn fyfyriwr yn Rhydychen

Ond mae'r honni bod myfyrwyr Cymru yn "haeddu cyfle i gystadlu ar yr un lefel â phob ymgeisydd arall".

Ymateb

Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis: "Rydym am i'n pobl ifanc anelu yn uchel beth bynnag eu cefndir.

"Dyna pam wnaethon ni ofyn i Paul Murphy AS fod yn llysgennad i Oxbridge - i hybu Cymru ac agor y drysau i Oxbridge.

"Rydw i'n diolch iddo am ei waith hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen at ystyried ei adroddiadau interim a therfynol, fydd yn cyfrannu at ein hagenda o ehangu mynediad."

Dywedodd Richard Partington, uwch-ddarlithydd yng ngholeg Churchill, Caergrawnt bod Mr Murphy wedi cymryd golwg dwfn i'r cwestiwn o geisiadau Cymreig i Rhydychen a Chaergrawnt.

"Rydym yn croesawu ei adroddiad interim. Mae ei syniadau yn ddiddorol ac yn bwysig, ac mae ei syniadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol yn berswadiol," meddai.

"Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn ei syniadau terfynol."

Dywedodd Prifysgol Rhydychen eu bod yn ceisio denu disgyblion gorau Cymru.

"Rydym yn gwybod bod cyrhaeddiad mewn ysgolion yn rhwystr i gynyddu'r nifer o fyfyrwyr o Gymru yn Rhydychen, tra bod rhai myfyrwyr galluog yn teimlo nad yw llefydd fel Rhydychen a Chaergrawnt yn eu siwtio, felly byddwn yn edrych ar ganfyddiadau'r adroddiad gyda diddordeb."

Straeon perthnasol