Bordeaux-Begles 32 - 13 Dreigiau

Toby Faletau Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Toby Faletau sgoriodd unig gais y Dreigiau yn Ffrainc

Roedd yna ergyd arall i obaith y Dreigiau o gyrraedd rownd nesaf y Cwpan Amlin, wedi colled yn erbyn Bordeaux nos Iau.

Doedd y Cymry methu a chystadlu yn yr ail-hanner, 32 - 13 oedd y sgôr terfynol.

Cafodd tri o chwaraewyr y Dreigiau gardiau melyn yn ystod y gêm, ac roedd y Dreigiau ar ei hol hi o 19 - 6 o fewn yr hanner awr gyntaf.

Sgoriodd Toby Faletau gais cyn yr egwyl i roi gobaith i'r ymwelwyr.

Ond daeth Bordeaux yn ôl yn gryf yn yr ail hanner, gyda dau gais hwyr.

Sgoriodd y maswr, Nicholas Sanchez, 22 o bwyntiau ei dîm, gan gynnwys cais a phum cic cosb.

Mae'r Dreigiau nawr yn ail yn y grŵp, y tu ôl i Gaerfaddon sydd wedi chwarae un gêm yn llai.