Heddlu yn darganfod gwerth £22,000 o gyffuriau

Heddlu Gogledd Cymru
Image caption Dywedodd yr heddlu y byddai mwy o gyrchoedd dros yr wythnosau diwethaf

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud bod ymgyrch yn erbyn cyffuriau yn Sir Fôn a Gwynedd wedi bod yn llwyddiannus.

Dechreuodd yr heddlu eu hymgyrch yn gynharach yn y mis, a'r pwrpas oedd i darfu ar y rhai sydd yn dod a chyffuriau i mewn i'r ardal gyda'r bwriad o'u gwerthu.

Meddai'r Ditectif Prif Arolygydd Iestyn Davies: "Mae'r cyrch yma wedi bod yn un llwyddiannus.

"Rydym wedi arestio 17 o bobl ac wedi gweithredu 11 gwarant mewn amryw o gyfeiriadau ac wedi darganfod cyffuriau dosbarth A a B gwerth £22,000 yn ogystal â swm mawr o arian ac eiddo sydd wedi ei ddwyn.

"Mae nifer o bobl wedi cael eu cyhuddo o droseddau difrifol yn ymwneud a chyffuriau yn cynnwys dosbarthu, ac mae tri wedi cael eu cadw yn y ddalfa ar ôl cyrch ar dŷ yn Llangefni."

Dywedodd Mr Davies y byddai effaith y cyrchoedd i'w weld yn yr ardal.

"Mae hyn wedi creu gryn broblemau i'r rhwydwaith dosbarthu cyffuriau a bydd mwy o weithrediadau yn digwydd dros yr wythnosau nesaf. "

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.