Tân mewn ysgubor: 26 wedi eu hanfon

Mae 26 o ddiffoddwyr tân yn taclo'r fflamau mewn ysgubor ger Llanllŷr-yn-Rhos wrth ymyl Llandrindod.

Mi gafodd y gwasanaeth tân ei galw am 7.22 y bore.

Mae criwiau wedi ei gyrru o Landrindod, Llanfair ym Muallt a Llanwrtyd a phedair injan dân yno.