Teyrngedau i'r Arglwydd Roberts o Gonwy

Yr Arglwydd Roberts o Gonwy
Image caption Dywedodd yr Arglwydd Roberts ei fod yn "falch iawn" o Ddeddf Iaith 1993 - deddf y gwnaeth ei llywio i'r llyfr statud ac a roddodd statws newydd i'r Gymraeg a sefydlodd Bwrdd yr Iaith.

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r Arglwydd Roberts o Gonwy, sydd wedi marw yn 83 oed.

Bu'n Aelod Seneddol Ceidwadol yng Nghonwy rhwng 1970 a 1997, a bu'n weinidog yn y Swyddfa Gymreig am 15 mlynedd. Roedd ei gyfrifoldebau'n yno'n cynnwys yr iaith Gymraeg.

Chafodd e fyth ei ddyrchafu i'r cabinet, ond fe gydweithiodd gyda phedwar Ysgrifennydd Gwladol a dau Brif Weinidog.

Cafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn 1997, a bu'n llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru yno tan 2007.

'Cymro mwyaf ei genhedlaeth'

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Vaughan Roderick fu'n cofio am Syr Wyn Roberts

Dywedodd David Cameron mai Wyn Roberts oedd un o'r dynion mwyaf caredig iddo weithio gyda nhw, ond nad oedd hynny yn cuddio ei sgiliau fel gwleidydd.

"Doedd ei antur addfwyn methu a chuddio ei sgiliau fel gwleidydd a'i benderfynoldeb i weithio dros Gymru."

Ychwanegodd: "Fel pŵer y tu ôl i'r Ddeddf Iaith, yn aml roedd Wyn i'w glywed ar draws y senedd yn siarad â chyd-weithwyr neu westeion yn yr iaith yr oedd yn teimlo mor gryf amdani.

"Roedd yn cael ei barchu gan bob rhan o'r Tŷ, roedd yn was ymroddgar, ac yn lysgennad diwyd dros Gymru."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol David Jones mai'r Arglwydd Roberts oedd Cymro mwyaf ei genhedlaeth.

Ychwanegodd: "Y mwyaf o'i gyflawniadau gwleidyddol oedd Deddf yr Iaith Gymraeg, a roddodd gydnabyddiaeth lawn mewn bywyd cyhoeddus i'r iaith yr oedd e'n lladmerydd mor feistrolgar a grymus drosti ac yr oedd yn ei charu gymaint.

"I mi, roedd yn ffrind caredig a chynghorwr doeth.

"Bydd colled fawr ar ei ôl yng Nghymru a San Steffan."

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod ei waith wedi cael effaith dros Gymru gyfan.

"Mae ei waith caled a'i ymrwymiad i wasanaethu'r cyhoedd wedi cael effaith bositif ar ddyfodol yr iaith Gymraeg a Chymru yn ei chyfanrwydd," meddai.

"Dwi'n gwybod y bydd colled fawr ar ei ôl ac mae fy nghydymdeimlad gyda'i deulu ar y diwrnod trist hwn."

'Ffigwr blaenllaw'

Dywedodd Arglwydd Crughywel, fuodd yn Ysgrifennydd Gwladol i Gymru dan lywodraeth Thatcher bod yr Arglwydd Roberts wedi gwneud cyfraniad mawr i'r iaith Gymraeg, heblaw dim byd arall.

"Gwnaeth gyfraniad mawr at y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru hefyd," meddai.

"Bydd colled mawr ar ei ôl yn Nhŷ'r Arglwyddi. Roedd yn ffigwr gweithgar iawn, ac yn gyfaill angenrheidiol i mi.

"Dwi'n gwybod ei fod yn siomedig nad oedd wedi bod yn Ysgrifennydd Gwladol erioed ond mae'r rheiny ohonom oedd yn ei adnabod yn gwybod na fyddai hynny wedi dangos y gorau ohono yn ôl pob tebyg, oherwydd ei fod yn dda iawn am roi cefnogaeth a chymorth."

Image copyright PA
Image caption Buodd yr Arglwydd Roberts yn weinidog yn y Swyddfa Gymreig am 15 mlynedd

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: "Roedd yr Arglwydd Roberts yn ffigwr blaenllaw mewn gwleidyddiaeth Gymreig am dros 30 o flynyddoedd.

"Ynghyd a'i yrfa hir yn Swyddfa Cymru, bydd yn cael ei gofio am ei waith er mwyn yr iaith Gymraeg, ac am lywio Deddf yr Iaith Gymraeg yn 1983.

"Bydd colled mawr ar ei ôl o ym myd gwleidyddiaeth Cymru."

Mae'r Arglwydd Barry Jones, cyn lefarydd y blaid Lafur ar Gymru hefyd wedi rhoi teyrnged.

Dywedodd: "Gwnaeth gyfraniad mawr i fywydau pobl Gymreig. Os fyddai unrhyw gyfiawnder ym myd Gwleidyddiaeth byddai wedi bod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

"Adeiladodd Wyn mwy o ffyrdd na'r Rhufeiniaid. Ef oedd hanfod y Ceidwadwyr Cymreig gyda record ragorol. Roedd yn ddyn dymunol iawn."

'Angel Gwarcheidiol'

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, bod Wyn Roberts yn "angel gwarcheidiol i'r iaith Gymraeg ac i S4C o fewn Llywodraeth Geidwadol yr 80au a'r 90au".

"Roedd y ddau yn agos at ei galon ac fe wnaeth bopeth o fewn ei allu i'w hyrwyddo a'u cefnogi.

"Daliodd i weithio drostynt yn Nhŷ'r Arglwyddi ac roedd ei gyngor doeth yn amhrisiadwy. Ynghyd â'r llefaru pwyllog a gofalus, roedd ganddo hefyd lygad direidus a chynhesrwydd personol.

"Gwnaeth gyfraniad enfawr ar adeg dyngedfennol i'r iaith Gymraeg ac fe welir ei golli'n fawr."

Dywedodd ei gyfaill, y newyddiadurwr Derek Bellis: "Roedd yn ddyn caredig, hynaws a doniol, a chanddo ddealltwriaeth enfawr ond dim ego o gwbl.

"Welais i erioed e'n cael gair croes....

"Fe wnes i ymweld ag e yn ystod y misoedd diwethaf pan roedd e'n sal ond roedd ei ymennydd mor graff ag erioed."

"Doedd e ddim yn toff - roedd e'n ddyn y bobl."

Straeon perthnasol