Portsmouth 0 - 2 Casnewydd

Mike Flynn Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Flynn am y tro cyntaf mewn 13 mis yn erbyn Portsmouth

Sgoriodd Mike Flynn ddwy gôl o fewn tair munud wrth i Gasnewydd guro Portsmouth ddydd Sadwrn.

Roedd Casnewydd yn ffodus i fod yn gyfartal ar yr egwyl, wrth i Portsmouth gael sawl cyfle. Cafodd ergyd Patrick Agyemang ei glirio oddi ar y linell.

Ond wedi'r egwyl daeth Casnewydd i mewn i'r gêm, gyda Flynn yn sgorio ei gol gyntaf mewn 13 mis, gan saethu i do'r rhwyd i roi'r Alltudion ar y blaen.

Daeth ei ail tair munud yn ddiweddarach, wrth i'r canolwr rwydo o du mewn i'r cwrt cosbi i sicrhau ail fuddugoliaeth Casnewydd oddi cartref y tymor hwn.

Portsmouth 0 - 2 Casnewydd

Carson Moutaouakil Potts Racon Devera Bradley Barcham Cooper (Ferry - 80' ) Connolly Agyemang (Bird - 67' ) Holmes (Wallace - 67' ) PidgeleyJackson Sandell Worley Oshilaja Pipe Flynn (Minshull - 85' ) Chapman Jolley (Naylor - 80' ) Washington (Crow - 41' ) Willmott

Straeon perthnasol