Mark Bridger: Apelio'n erbyn dedfryd am ladd April Jones

Mark Bridger Image copyright Police
Image caption Cafodd Mark Bridger ei ddedfrydu i fywyd dan glo

Bydd llofrudd April Jones, Mark Bridger, yn apelio yn erbyn ei ddedfryd o garchar am oes.

Dywedodd y Swyddfa Farnwrol bod y dyn 47 oed wedi gwneud cais am ganiatâd i apelio.

Cafodd Bridger ei ganfod yn euog o gipio a llofruddio'r ferch ysgol bum mlwydd oed mewn achos fis Mai eleni, a chafodd ei garcharu am weddill ei oes.

Fe ddiflannodd April ger ei chartref ym Machynlleth ar Hydref 1, 2012. Er lansio'r ymgyrch chwilio fwyaf yn hanes heddlu Prydain, dyw ei chorff ddim wedi cael ei ddarganfod.

Dywedodd rhieni April, Coral a Paul Jones, wrth bapur newydd The Sun bod yr heddlu wedi eu rhybuddio am fwriad Bridger.

Maen nhw'n bwriadu mynd i'r gwrandawiad yn y Llys Apêl fis nesaf.

Meddai Mrs Jones: "Mae e yn y carchar, lle mae e i fod, ac fe ddylai aros yno.

"Mae e jest yn arteithio fy nheulu i gyda brwydrau cyfreithiol. Mae e fel ei fod e'n ein gwawdio ni, fel ei fod eisiau dangos ei fod e wedi cael y gorau arnom ni."

Clywodd achos llys Bridger bod cymhelliant rhywiol i'r ymosodiad ar April.

Cafwyd hyd i ddelweddau o gamdrin plant ar ei gyfrifiadur, yn ogystal â lluniau o blant o'r ardal.

Straeon perthnasol