Rheolwr pwll glo, Malcolm Fyfield, yn gwadu dynladdiad

Malcolm Fyfield Image copyright Wales News Service
Image caption Mae Malcolm Fyfield yn wynebu pedwar cyhuddiad o esgeulustod dybryd

Mae rheolwr pwll glo yn Nyffryn Tawe wedi pledio'n ddieuog i ddynladdiad pedwar glöwr ar y safle ym mis Medi 2011.

Roedd Malcolm Fyfield, 58, yn gyfrifol am bwll glo'r Gleision, ger Cilybebyll, pan lifodd dŵr i'r pwll.

Mae ei gyd gyfarwyddwyr gyda chwmni MNS Mining hefyd wedi gwadu cyhuddiadau tebyg mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe.

Mae MNS Mining yn wynebu cyhuddiadau o ddynladdiad corfforaethol.

Bu farw David Powell, 50, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, yn y digwyddiad.

Roedd teuluoedd y pedwar yn y llys ar gyfer y gwrandawiad ddydd Llun.

Cafodd Malcom Fyfield ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe gadarnhaodd y barnwr y bydd yr achos yn dechrau ar Fawrth 24, 2014.

Straeon perthnasol