Cwrs hyfforddi seicolegwyr addysg yn dod i ben

School pupil Image copyright PA
Image caption Mae'r corff sydd yn cynrychioli seicolegwyr addysg yn dweud y bydd yna brinder am fod yr hyfforddiant yn dod i ben

Mae'r unig gwrs sydd yn hyfforddi seicolegwyr addysg yng Nghymru yn dod i ben oherwydd diffyg nawdd.

Prifysgol Caerdydd sydd yn cynnig yr hyfforddiant tair blynedd ac mi fydd y myfyrwyr olaf yn graddio yn 2016.

Yn ôl yr undeb sydd yn cynrychioli gweithwyr yn y maes ym Mhrydain, canlyniad hyn fydd prinder seicolegwyr addysg yng Nghymru.

"Dw i'n credu bydd e'n golygu prinder mawr o seicolegwyr addysg. Mae mwyafrif y seicolegwyr addysg sydd yn hyfforddi yng Nghymru yn aros yng Nghymru i weithio.

"Maen nhw'n cymryd swyddi mewn cynghorau yng Nghymru. Os nad oes gyda ni gwrs hyfforddi, does gyda ni wedyn ddim y cyflenwad posib yna o seicolegwyr addysg," meddai Mary Greening, cynrychiolydd Cymru ar gyfer Cymdeithas y Seicolegwyr Addysg.

Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn ariannu'r cwrs yn y gorffennol trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Ond mae'r grant wedi crebachu meddai'r undeb, sydd yn golygu nad ydy'r brifysgol yn medru parhau i gynnig yr hyfforddiant.

Ddim yn dychwelyd i Gymru

Dyma'r unig gwrs sydd yn cael ei gynnig yng Nghymru gyda rhyw 10 o fyfyrwyr yn cael eu dewis bob blwyddyn.

Mae gan y myfyrwyr radd seicoleg yn barod ac mae'n rhaid gwneud y ddoethuriaeth i fod yn gymwys i weithio fel Seicolegwyr Addysg proffesiynol.

Dywed Mary Greening, sydd wedi gweithio yn y maes, fod rôl seicolegwyr addysg yn holl bwysig.

"Pan rydych chi'n ystyried y rôl sydd gyda ni i wella a chefnogi datblygiad plant fel eu bod yn cyrraedd eu potensial, dw i'n credu y bydd hwn yn cael effaith ar ymgais ysgolion i wella safonau wedi canlyniadau Pisa."

Mae gan yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu cwrs hyfforddi eu hunain.

Yn Lloegr maen nhw newydd gyhoeddi eu bod nhw am gynyddu nifer y myfyrwyr sydd yn cael eu hyfforddi.

Os ydy pobl yn dewis gwneud y cwrs mewn prifysgol yna mae'n rhaid iddyn nhw aros am ddwy flynedd ar ôl cymwyso yn y wlad. Canlyniad hynny, meddai Mary Greening, ydy na ddaw pobl yn ôl i Gymru wedyn.

Pryder arall sydd gan yr undeb ydy effaith y sefyllfa ar yr iaith Gymraeg.

Llai fydd yn medru'r iaith

"Mae 'na brinder seicolegwyr mewn ardaloedd yng ngogledd Cymru lle nad ydyn nhw'n medru ffeindio seicolegwyr addysg sydd yn ddigon rhugl yn y Gymraeg.

"Dw i'n credu y bydd cau'r ganolfan yma yn gwneud hi yn hyd yn oed mwy anodd i recriwtio a chadw seicolegwyr addysg sydd yn medru siarad Cymraeg.

"Mae'n broblem yn barod a dw i'n meddwl bydd hyn yn gwneud y sefyllfa hyd yn oed yn waeth."

Mewn datganiad dywedodd Prifysgol Caerdydd na allan nhw barhau i gynnal y cwrs gyda'r nawdd mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi awgrymu y byddan nhw'n cynnig. Ond maent yn pwysleisio ei bod eisiau i'r cwrs barhau petai mwy o arian ar gael.

"Dyna pam rydyn ni'n gweithio gyda Chymdeithas Lywodraeth Lleol Cymru ar y model cyllidol er mwyn sicrhau fod profiad y myfyrwyr presennol a'r cwrs ei hun yn parhau i fod yn un sydd yn cyrraedd y safon uchel sydd wedi bodoli tan nawr."

Sicrhau bod dim prinder

Maent yn dweud eu bod mewn trafodaethau gyda'r llywodraeth i sicrhau bod yna ddarpariaeth o seicolegwyr addysg yng Nghymru yn yr hir dymor.

Yn ôl llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol, mae'r corff wedi rhybuddio ers amser bod yn rhaid i'r brifysgol wneud arbedion.

"Dyw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddim wedi awgrymu y bydd yr arian yn dod i ben ac mi ydyn ni wedi bod mewn trafodaethau gyda Phrifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru i wneud yn siwr bod y nawdd yn cael ei rhoi ar sylfaen fwy cadarn."

Wrth ymateb mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn cydnabod pwysigrwydd seicolegwyr addysg a'i bod mewn trafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod yna ddigon ohonynt ar gyfer y dyfodol.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.