Cwest i farwolaeth athrawes

Mared Elfyn Image copyright Family photograph
Image caption Roedd Mared Elfyn yn athrawes yn Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth dynes 23 oed o Lanffestiniog a fu farw yn dilyn damwain ffordd.

Bu farw Mared Elfyn yn Ysbyty Bronglais Aberystwyth ar Ragfyr 13 yn dilyn damwain ffordd ger Glandyfi nos Iau.

Fe wnaeth crwner Ceredigion Peter Brunton ohirio'r cwest tan ddyddiad sydd eto i'w benderfynu.

Roedd Ms Elfyn yn athrawes yn Ysgol Bro Dyfi, Machynlleth.

Bu ei char mewn gwrthdrawiad â char arall ger pentref Derwenlas.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion i'r ddamwain.