Abertawe yn wynebu Napoli

Fe fydd Abertawe yn wynebu Napoli o'r Eidal yn rownd nesa' cwpan cynghrair Europa.

Bydd y cymal cynta' yn erbyn tîm Rafa Benitez yn stadiwm Liberty ar Chwefror 20.

Yna bydd Abertawe yn teithio i Stadiwm San Paolo ar Chwefror 27.

Pe bai Abertawe yn llwyddiannus yna byddan nhw'n wynebu un ai Porto neu Eintracht Frankfurt am le yn yr wyth olaf.

Cyn wynebu Napoli fe fydd Abertawe yn gorfod chwarae 10 gêm yn yr Uwchgynghrair, yn ogystal â gêm yn erbyn Manchester United yng Nghwpan FA Lloegr.

Hwn yw tymor cyntaf Abertawe yng nghynghrair Europa, ar ôl iddynt ennill cwpan Cynghrair Lloegr.