Perchennog Caerdydd yn flin gyda Mackay

Malky Mackay Image copyright Getty Images
Image caption Dywedodd Malky Mackay y byddai'n hoffi arwyddo tri chwaraewr arall o safon

Dywedodd prif weithredwr Clwb Pêl-droed Caerdydd fod y perchennog Vincent Tan yn "flin iawn" oherwydd sylwadau'r rheolwr Malky Mackay dros y penwythnos.

Yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn West Brom, dywedodd Mackay ei fod yn gobeithio dod â thri chwaraewr newydd i'r clwb yn y ffenest drosglwyddo ym mis Ionawr.

Ond yn ôl Simon Lim, mae Tan yn teimlo fod Mackay eisoes wedi cael digon o arian i gadw'r clwb yn yr Uwchgynghrair.

Ychwanegodd bod y cyn bennaeth recriwtio Iain Moody wedi cael ei ddiswyddo am wario gormod dros yr haf.

'Codi disgwyliadau'

Dywedodd Lim: "Oherwydd hynny mae e (Tan) wedi dweud na fydd ceiniog ychwanegol ar gael ym mis Ionawr.

"Roedd Tan Sri Vincent Tan yn flin iawn i ddarllen sylwadau gan y rheolwr ynglŷn â'r posibilrwydd o chwaraewyr newydd cyn iddo gael gwybod a fydd arian ar gael ai peidio.

"Mae'n credu bod hynny wedi codi disgwyliadau'r cefnogwyr yn annheg gan roi pwysau diangen ar y clwb.

"Ei farn ef yw bod y rheolwr wedi cael ei gefnogi'n llawn oherwydd yr arian sydd eisoes wedi cael ei roi, gan gynnwys y gyllideb drosglwyddiadau o £35 miliwn yn yr haf a gododd i gyfanswm o £50m.

"Mae'r gorwario yna wedi pryderu Tan Sri yn fawr gan arwain at ddiswyddo Iain Moody fel pennaeth recriwtio. Mae e felly wedi dweud na fydd yr un geiniog arall ar gael ym mis Ionawr.

"Caerdydd sydd wedi gwario'r swm mwyaf o'r tri chlwb gafodd ddyrchafiad, a'r seithfed mwyaf yn yr Uwchgynghrair dros yr haf, ac mae'r perchennog felly'n teimlo fod y rheolwr wedi cael y cyfle gorau posib i gadw ein statws yn yr Uwchgynghrair."

Trafod

Daeth sylwadau Mackay wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn West Brom - canlyniad arweiniodd at ddiswyddo rheolwr yr ymwelwyr.

"Fe fyddai'n wych medru ychwanegu tri chwaraewr da i'r garfan," meddai ar ôl y gêm.

"Byddaf yn siarad gyda'r cadeirydd (ym mis Ionawr) a fydd wedyn yn trafod gyda'r bwrdd a'r perchennog, ac fe fyddan nhw yn f'arwain.

"Mater iddyn nhw yw penderfynu faint y maen nhw am ei wario ym mis Ionawr."

Mae Caerdydd yn y 15fed safle yn yr Uwchgynghrair.

Straeon perthnasol