Diffoddwyr Tân yn delio gyda tan sglodion pren

Diffoddwyr Tân
Image caption Roedd y tân ar stad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy

Mae ymladdwyr tân wedi bod yn diffodd tân oedd yn bygwth 1,000 tunnell o sglodion pren ar gyrion ffatri egni biomas

Digwyddodd y tân ar safle egni adnewyddol UPM ar stad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, Shotton.

Bu pedwar criw o Lannau Dyfrdwy, Fflint, Wrecsam a Caer yn brwydro'r fflamau.

Symudwyd pentyrrau o'r sglodion i ffwrdd o safle.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu.

Dywedodd Andrew Bronnert, pennaeth UPM y safle, nad oedd gwaith yno wedi cael ei effeithio.

Meddai: "Mae'r tân dan reolaeth ac rydym yn cydweithio gyda'r diffoddwyr tân i sicrhau ei fod wedi cael ei ddiffodd yn gyfan gwbl,"

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y tân.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.