Cwmni am brynu 25 o awyrennau Airbus

Airbus A330-300
Image caption Bydd AirAsia yn erbyn 25 o awyrennau A300 gan Airbus, sydd â ffatri ym Mrychdyn

Mae cwmni awyrennau Airbus wedi dweud eu bod wedi cael archeb am 25 awyren newydd gan gwmni AirAsiaX.

Mae disgwyl i'r cwmni dderbyn yr awyrennau cyntaf, sy'n rai A330-300, yn 2015, wrth iddyn nhw ehangu eu rhwydwaith ar draws Asia a'r Cefnfor Tawel.

Mae'r fersiwn diweddaraf o'r A330 yn hedfan yn bellach, sy'n galluogi'r cwmni i gynnig siwrnai di-stop i Ewrop neu America.

Dywedodd Tan Sri Tony Fernandes, cyd-sefydlydd a chyfarwyddwr AirAsiaX: "Mae archeb yma yn dangos bod gennym yr awydd i ddominyddu'r farchnad siwrnai bell, cost isel, ac yn dechrau cyfnod nesaf yn ein datblygiad i fod yn arweinydd byd-eang yn y farchnad yma.

Dywedodd Fabrice Brégier, Llywydd a Phrif Weithredwr Airbus, bod yr archeb yn atgyfnerthu safle'r grwp fel un o brif gwsmeriaid Airbus.

"Mae AirAsiaX wedi profi ei fod yn bosib creu busnes siwrnai bell gyda chostau isel, ac mae'r A330 yn blatform perffaith gyda'r costau gweithredu isel a'r gallu i hedfan yn bell yn ogystal â record o ddibynadwyedd technegol."

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS: "Mae'r archeb yma yn dod ar ddiwedd blwyddyn arall eithriadol o lwyddiannus i Airbus.

"Bydd yn cryfhau rôl Airbus o fewn y diwydiant adain byd eang ac yn cryfhau llyfr archebion yn ffatri adain Brychdyn."

Mae gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Edwina Hart AC, hefyd wedi croesawu'r cyhoeddiad: "Mae hyn yn newyddion da iawn i Airbus ac yn bluen arall yng nghap y tîm hynod o grefftus ym Mrychdyn.

"Mae Airbus yn gwneud cyfraniad mawr i economi Cymru, yn ogystal ag yn nhermau gwaith, yn datblygu prentisiaethau a chyfleoedd i gwmnïau bychain eraill yn y gadwyn gyflenwol."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.