Gwylwyr y Glannau yn achub tri ym mhen draw'r byd

Swansea, New South Wales
Image caption "Swansea" yn New South Wales, Awstralia

Mae Gwylwyr y Glannau Abertawe wedi helpu achub tri o bobl ar gwch oedd yn suddo dros 10,000 o filltiroedd i ffwrdd.

Am 7:15am derbyniodd y gwylwyr alwad gan ddyn oedd yn dweud bod ei gwch mewn trafferthion.

Ar ôl ei holi am ei leoliad daeth yn amlwg nad oedd y dyn yn siarad am arfordir Abertawe yng Nghymru ond am Swansea ar arfordir dwyreiniol Awstralia.

Yn ffodus cysylltodd Gwylwyr y Glannau gyda'u tebyg yn Awstralia a aeth i achub tri.

Meddai llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau: "Roedd y dyn yn son am Llyn Macquarie ac aeth ymlaen i ddweud ei fod rhwng dau bentir yn chwifio siaced achub.

"Gofynnwyd iddo o ba wlad roedd yn galw ac atebodd yntau, Awstralia.

"Mae gennym rhifau ffôn holl ganolfannau achub felly roeddem yn gallu galw'r un yn Awstralia ac roedden nhw'n medru ei achub."

Mae "Swansea" yn nhalaith New South Wales tua 80 milltir i'r gogledd o Sydney.