Gwrthdrawiad Pontyclun rhwng bws a ddau car

Damwain

Mae wyth o blant wedi eu cludo i'r ysbyty wedi gwrthdrawiad rhwng bws a dau gar ym Mhont-y-Clun o gwmpas 8:40am.

Cafodd y plant eu cludo i'r ysbyty rhag ofn eu bod wedi anafu yn y digwyddiad.

Galwyd Gwasanaeth Tân ac Argyfwng De Cymru i'r ddamwain rhwng y cerbydau a ddigwyddodd ar Ffordd Y Bont-Faen ar yr A4222 yn agos i dafarn yr Ivor Arms.

Defnyddiwyd offer torri gan ddau griw o ddiffoddwyr i ryddhau dynes a oedd wedi derbyn man anafiadau.

Roedd y ffordd wedi ei chau yn y ddau gyfeiriad rhwng Rhodfa Talygarn a'r B4264 Ffordd Meisgin ym Mhont-y-clun.

Meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans: "Aethpwyd a dynes i Ysbyty Brenhinol Morgannwg gydag anafiadau ond nid yw ei bywyd mewn perygl.

"Yn ogystal aethpwyd ag wyth o blant i'r ysbyty am archwiliad, rhag ofn eu bod wedi anafu."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.