Cynllun yn cynnig stafell sbâr i geiswyr lloches yn y brifddinas

Ceiswyr lloches
Image caption Mae rhai ceiswyr lloches yn ei chael hi'n anodd, yn enwedig os yw'r Swyddfa Gartref yn gwrthod eu cais

Mae cynllun wedi dechrau i gynnig llety dros dro i geiswyr lloches sy'n wynebu heriau.

O dan gynllun ShareDYDD mae pobl gydag ystafell sbâr yn y brifddinas yn gadael i geiswyr lloches aros yn eu tai.

Ar ôl clywed am ShareTAWE y penderfynodd y trefnwyr fod angen cynllun tebyg yn y brifddinas.

"Y rhai fydd yn elwa fwyaf fydd y bobl sydd wedi dod i Gymru i geisio lloches ond wedi cael ymateb negyddol gan y Swyddfa Gartref, eu cais wedi ei wrthod a chefnogaeth y Swyddfa Gartref wedi dod i ben," meddai Peter Simpson, aelod o Gydymlyniad gyda Mudwyr Caerdydd, mudiad o wirfoddolwyr sy'n cynnig cefnogaeth i geiswyr lloches.

Pan mae ceiswyr lloches yn cyrraedd Cymru mae llety yn cael ei ddarparu. Ond os ydy eu cais yn cael ei wrthod mi allen nhw fod heb unrhyw le i aros. Yn aml, mae pobl yn apelio ond mae'r broses yn cymryd misoedd.

Ar y stryd

Dywedodd y ddau fudiad fod rhai pobl yn cysgu ar y stryd am nad oes unrhywle i fynd. Oherwydd y toriadau mewn cymorth cyfreithiol am ddim, maen nhw'n proffwydo y bydd yna fwy o bobl yn chwilio am lety.

"Mae straeon diweddar am bobl yn cysgu o dan bont yn Heathrow, pobl yn cysgu yn Marble Arch yn Llundain ..." meddai Peter.

"Yn aml, mae Canolfan Huggard yng Nghaerdydd yn cyfarfod pobl ac yn eu cyfeirio nhw at sefydliadau gwahanol fel ein mudiad fel ein bod ni'n gallu eu rhoi nhw mewn cysylltiad gyda phobl allai eu cefnogi nhw."

Mae Hywel Bishop yn rhannu ei dŷ gyda cheiswyr lloches. Ar hyn o bryd mae mam a dau o blant yn aros wrth iddyn nhw wneud cais newydd wedi i'r cais cychwynnol gael ei wrthod.

Dywedodd Hywel, sydd wedi gwneud doethuriaeth yn y maes mewnfudo, fod y profiad wedi bod yn werthfawr.

'Trin a thrafod'

"Dwi wedi dysgu lot o bethe. Wrth fyw o dan yr un to ag unrhywun, mae angen trin a thrafod. Ond mae wedi bod yn ddiddorol.

"Mae'r rhan fwya' o bobl jest eisiau eu tŷ eu hunain so ma'n anodd. Er 'mod i'n dweud: 'Gwnewch eich hunain yn gartrefol,' yn naturiol, maen nhw eisie eu tŷ eu hunain."

Mae ShareDYDD wedi cychwyn yn anffurfiol ac yn y broses o sefydlu gwefan. Hefyd maen nhw'n dilyn yr un patrwm â'r mudiad yn Abertawe, pobl yn cyfarfod ei gilydd i ddechrau i weld a fedran nhw gyd-dynnu.

Image caption Hywel Bishop: 'Y profiad yn werthfawr'

Chwilio am wirfoddolwyr all gynnig pythefnos o lety y mae'r mudiad yng Nghaerdydd. Ond dyw'r rheolau am hyd yr arhosiad ddim yn llym, meddai Peter.

"Ry'n ni hefyd yn chwilio am bobl sy'n hapus i rywun aros am noson. Mi allai hyd yn oed hynny helpu rhywun i sortio ei hun mas a ffeindio opsiwn arall y diwrnod wedyn.

"Mae e wir yn benderfyniad i'r unigolyn i gynnig llety am faint bynnag y maen nhw'n meddwl y gallan nhw ei gynnig."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.