Ysgol Uwchradd Caergybi wedi cau oherwydd difrod tywydd

Ysgol Uwchradd Caergybi
Image caption Mae Ysgol Uwchradd Caergybi wedi bod ar gau oherwydd difrod i'r tô

Mae disgyblion un o Ysgolion Uwchradd yn Sir Fôn wedi dechrau eu gwyliau Nadolig yn gynnar y flwyddyn yma wrth i'w ysgol gau dau ddiwrnod yn gynt na'r gweddill.

Mae rhan o adeilad gwyddoniaeth, Ysgol Uwchradd Caergybi wedi ei ddifrodi gan wyntoedd uchel.

Caewyd yr ysgol ar ddydd Iau, Rhagfyr 19 wrth i Cyngor Môn wneud yr adeilad yn ddiogel ac roedd ar gau ar ddydd Gwener, hefyd.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn: "Difrodwyd y tô uwchben bloc Gwyddoniaeth Ysgol Uwchradd Caergybi gan wyntoedd cryf ar nos Fercher.

"Yn dilyn asesiad gan ein Gwasanaeth Eiddo, penderfynwyd cau'r ysgol yn gynnar ar Ddydd Iau. Bu'r ysgol hefyd ar gau i ddisgyblion ar ddydd Gwener, Rhagfyr 20fed ,er mwyn gwneud yr adeilad yn ddiogel.

"Mae gwaith wedi ei drefnu dros gyfnod y Nadolig, a bydd hwn yn cael ei gynnal yn ddibynnol ar amodau tywydd. Mae'r pennaeth yn disgwyl y bydd yr ysgol ar agor fel arfer ar ddechrau tymor y Gwanwyn, Ionawr 6ed. "

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.