Lladrad arfog: dangos lluniau CCTV

CCTV image of suspect in Cwmgors mini market raid Image copyright South Wales Police
Image caption Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd yn adnabod y dyn yma i gysylltu

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi lluniau CCTV o ddyn y maen nhw isio siarad efo ar ôl i ladrad arfog ddigwydd mewn siop yng Ngwm gors yng Nghastell Nedd Port Talbot nos Iau.

Mi aeth y dyn i mewn i'r archfarchnad fach a dwyn swm o arian o'r til.

Mi oedd o hefyd wedi bygwth pobl oedd yn gweithio yno.

Fe gafodd dyn ei arestio pnawn Gwener ond mae wedi ei rhyddhau ac mae'r ymchwiliad yn parhau.

Gofynnir i unrhyw un sydd yn adnod y dyn yn y lluniau CCTV neu sydd gydag unrhyw wybodaeth i gysylltu trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle yn anhysbys ar y rhif 0800 555 111.