Lerpwl 3-1 Caerdydd

Cardiff fans hold up a flag Image copyright Getty Images
Image caption Roedd rhai o gefnogwyr Caerdydd yn dangos yn glir eu cefnogaeth i'r rheolwr Malky Mackay

Lerpwl 3-1 Caerdydd

Luis Suarez oedd seren y gêm rhwng Caerdydd a Lerpwl bnawn Sadwrn wrth iddo sgorio dwy gôl i'r tîm cartref. Mi helpodd i greu'r gôl arall hefyd a ddaeth gan Sterling ar ôl 42 munud.

Mae'r dyn o Uruguay newydd arwyddo cytundeb newydd gyda Lerpwl ac mae'r canlyniad yn golygu mai Lerpwl sydd ar y brig yn uwchgynghrair Lloegr.

Roedd Caerdydd ychydig yn fler yn yr hanner cyntaf, yn ildio cyfleoedd ond mi gafwyd ambell ergyd.

Er hynny yn yr ail hanner mi darodd yr adar Gleision yn ôl gan sgorio ar ôl 58 munud. Jordan Mutch gafodd y gôl.

Roedd Caerdydd wedi adfywio a'r chwaraewyr yn gweithio'n galed ar y cae.

Mae hi wedi bod yn wythnos ddramatig i'r clwb wedi i berchennog Caerdydd, Vincent Tan ddweud wrth y rheolwr, Malky Mackay i ymddiswyddo neu gael ei ddiswyddo.

Mae rhai o'r cefnogwyr wedi dangos eu cefnogaeth at y rheolwr gyda baneri i'w gweld yn ystod y gêm gyda sloganau fel 'Tan out' arnyn nhw.

Y darogan yw mai hon oedd gêm olaf Mackay ac mi roddodd y chwaraewyr popeth i'r gêm yn yr ail hanner.

Straeon perthnasol