Abertawe 1-2 Everton

Ross Barkley Image copyright PA
Image caption Ross Barkley yn dathlu ar ôl sgorio

Abertawe 1-2 Everton

Everton sydd yn dathlu ar ôl i Ross Barkley selio ffawd y gêm yn y munudau diwethaf a hynny mewn gêm agored.

Er bod digon o bêl droed atyniadol a phwyso ar y ddwy ochr di sgor oedd hi yn yr hanner cyntaf.

Ar ddechrau'r ail hanner roedd yr ymwelwyr yn barod i ymosod ac mi gafon nhw ei gwobrwyo gydag ergyd Seamus Coleman ar ôl 66 munud.

Doedd gôl Bryan Oviedo i Abertawe ddim cystal ond roedd y sgor yn gyfartal gyda 20 munud i fynd.

Ond gyda phum munud ar ôl Everton oedd yn dathlu wedi ergyd arbennig gan Ross Barkley. Cic rydd oedd hi ac mi aeth y bêl dros y wal amddiffynol ac i mewn i'r rhwyd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Everton nawr yn y pedwerydd safle yn yr uwchgynghrair.