Heddlu'r De'n poeni am ddyn ar goll o Flaenau Gwent

Rhys Trimby
Image caption Roedd Rhys wedi bod ar noson allan yng nghlwb nos Harveys yng Nghwm Derwen

Mae Heddlu'r De'n poeni am ddyn 21 oed o Swffryd ym Mlaenau Gwent.

Does neb wedi gweld Rhys Trimby ers nos Wener, Rhagfyr 20.

Roedd Rhys wedi bod ar noson allan yng nghlwb nos Harveys yng Nghwm Derwen.

Fe adawodd o'r clwb am 10.40yh, gan ddweud ei fod am fynd i ymweld â ffrindiau yn y Coed Duon.

Dyna'r tro diwethaf i unrhywun ei weld.

Mae Rhys yn mesur oddeutu pum troedfedd naw modfedd, a chanddo wallt tywyll, pigog, llygaid glas a chraith uwchben ei lygad dde.

Pan welwyd o ddiwethaf, roedd o'n gwisgo jins, esgidiau brown, siwmper lwyd â phlu eira du arni a chrys-t coch.

Gall unrhywun sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod '510 21/12/13'.